Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Mehefin 2020
Amser:
09.00 -
12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6203
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Angela Burns AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Alan Brace, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Dr Rob Orford, Llywodraeth Cymru Samia Saeed-Edmonds, Llywodraeth Cymru Dr Olwen Williams, Coleg Brenhinol y Meddygon Derin Adebiyi, Coleg Brenhinol y Meddygon |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y cyfarfod.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2. Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ysgrifennu at y Pwyllgor, ac at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i gadarnhau dull Llywodraeth Cymru o ran cyhoeddi’n rheolaidd y data y mae’n eu casglu ynghylch monitro gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig a lefelau gwaith y gwasanaethau hyn.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.
4 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Meddygon
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Coleg Brenhinol y Meddygon.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - Adroddiadau Statudol
6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022
6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
8 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.